Dorset
| suppressfields = cylchfa, sir | ardal = | gwlad = }}Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dorset. Fe'i lleolir yn ne-orllewin y wlad ar lan Môr Udd rhwng siroedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf i'r gorllewin, Wiltshire i'r gogledd a Hampshire i'r dwyrain. Ei brif ddinas a chanolfan weinyddol yw Dorchester. Mae ei thir yn isel ond fe'i croesir gan y Dorset Downs yn y de a'r gogledd. Y prif afonydd yw Afon Frome ac Afon Stour. Sir amaethyddol yw hi'n draddodiadol ond mae twristiaeth yn bwysig hefyd, yn arbennig yn ei threfi arfordirol fel Bournemouth a Weymouth. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer anferth Maiden Castle, ger Dorchester, yn sefyll allan. Mae nifer o lefydd yn y sir yn dwyn cysylltiad â gwaith llenyddol Thomas Hardy. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Wessex.
bawd|dim|200px|Lleoliad Dorset yn Lloegr Darparwyd gan Wikipedia
-
1