John Webster

Dramodydd o Loegr oedd John Webster (tua 1580 – tua 1632) a flodeuai yn ystod Oes Iago. Ystyrir ei ddramâu ''The White Devil'' a ''The Duchess of Malfi'' yn enghreifftiau rhagorol o'r drasiedi Saesneg ac yn ail yn llên Lloegr yn yr 17g dim ond i weithiau William Shakespeare.

Ni wyddys llawer am fywyd Webster. Cafodd ei eni yn Lundain tua 1580. Yn ôl ei ragair i ''Monuments of Honor'', cafodd ei eni'n rhyddfreiniwr i Gwmni Anrhydeddus y Teilwriaid Masnachol, un o gwmnïau lifrai Dinas Llundain. Mae'n debyg iddo weithio'n saer cerbydau, ac o bosib yn actor yn ogystal â dramodydd.

Ysgrifennodd Webster dair drama ar ben ei hunan: ei ddau gampwaith ''The White Devil'' (1612) a ''The Duchess of Malfi'' (tua 1613), a'r drasicomedi ''The Devil's Law-Case'' (tua 1620). Cydweithiodd gyda dramodwyr eraill ar weddill ei weithiau i'r theatr. Gyda Thomas Dekker oedd ei brif bartneriaeth, ac ymhlith eu cyweithiau mae ''Westward Ho'' (1604) a ''Northward Ho'' (1605). Credir hefydd iddo gydysgrifennu dramâu â William Rowley, Thomas Middleton, John Fletcher, John Ford, ac o bosib Philip Massinger. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5 ar gyfer chwilio 'Webster, John', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan WEBSTER,JOHN
    Cyhoeddwyd
    TEXT
  2. 2
  3. 3
    gan Webster, John
    Cyhoeddwyd 1966
  4. 4
  5. 5
    gan Webster, John G, Eren, Halit
    Cyhoeddwyd 2014